Saving Futures: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023
Lleoliad: Yn rhithwir
Siaradwyr
Jayne Bryant AS—Cadeirydd
Tanya Harrington – Stonewall Cymru
Fateha Ahmed, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
Zoe Williams – Anabledd Dysgu Cymru
Elinor Puzey – NSPCC
Yn bresennol
Lucy Blackwood - Llywodraeth Cymru
Catrin Simpson – Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)
Claire Sharp, Plant yng Nghymru
Damian Rees - Abertawe
Fflur Emlyn – RASASC Gogledd Cymru
Helen Gordon – Gwent
Joanna Williams (Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru)
Alex Perry – Llywodraeth Cymru
Kate Rothwell - Llywodraeth Cymru
Dearbhla Sloan - NSPCC
Kelly Turner - Sir Fynwy
Ross Walmsley – NSPCC
Jan Pickles
Helen Middleton - CAVC
Heather Heaney - Sir Fynwy
Faith McCready – Heddlu De Cymru
Catherine Lewis - Heddlu De Cymru
Sarah Keefe - Tarian
Sally Howells - Cyfannol
Philip Walker – Survivors’ Trust
Cofnodion
Croesawodd Jayne Bryant AS y rhai a oedd yn bresennol i'r cyfarfod, ac esboniodd mai nod y sesiwn hon yw llywio argymhellion y Grŵp Trawsbleidiol i Lywodraeth Cymru o ran ail gynllun gweithredu ar gam-drin plant yn rhywiol, gyda ffocws ar anghenion plant ar y cyrion.
Pwyntiau allweddol gan y siaradwyr
Tanya Harrington - Stonewall Cymru
· Gall ffactorau risg ar gyfer pobl ifanc LGBTQ+ fod yn debyg i garfannau eraill o blant, ond yn cael eu cyflwyno’n wahanol
· Efallai y bydd person ifanc yn teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn ei erbyn oherwydd ei rywioldeb, felly efallai na fydd am ddweud wrth athro neu feddyg am y cam-drin. Gall camdrinwyr gymryd mantais ar yr ymdeimlad hwn o unigedd
· Mwy o risg o galedi ariannol a digartrefedd os yw’r berthynas â’r teulu yn anodd , neu os nad oes dim perthynas o gwbl
· Nid oes gan bobl ifanc LGBTQ+ yr un enghreifftiau o berthnasoedd da, a gall hynny arwain at berthnasoedd rhywiol anniogel a chamdriniol.
· Mae gwasanaethau pwysig yn darparu mynediad cynhwysol at gefnogaeth, ac maent yn cynnig hyfforddiant ar sut i fod yn berson diogel
· Mae angen arddel agwedd groestoriadol, gan drin pobl ifanc fel unigolion, nid fel rhan o grŵp homogenaidd LGBTQ+.
Fateha Ahmed – Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) Cymru
· Ofn stigma, a cholli parch gan y gymuned os bydd cam-drin yn cael ei ddatgelu
· Mae man dall fel petai, mewn gwasanaethau ‘prif ffrwd’ o ran deall stigma a chamddealltwriaeth ddiwylliannol o gam-drin plant yn rhywiol, sy’n creu rhwystr i gael mynediad at wasanaethau
· Rhwystrau iaith
· Mae’n aml yn amharchus i drafod rhyw o fewn rhai diwylliannau, a all ei gwneud yn anoddach i blant a phobl ifanc ddatgelu
· Mae ymarferwyr sy'n deall rhwystrau diwylliannol yn hanfodol o fewn gwasanaethau cymdeithasol
· Mae risgiau a rhwystrau arbennig i deuluoedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n ofni 'amgylchedd gelyniaethus'
Zoe Richards - Anabledd Dysgu Cymru
· Mae rhieni ag anabledd dysgu yn teimlo eu bod dan wyliadwriaeth gyson, a all fod yn rhwystr i geisio cymorth ar gam-drin plant yn rhywiol
· Mae mamau ag anabledd dysgu yn arbennig o agored i bartneriaid rheibus
· Rhaid i wybodaeth am gam-drin plant yn rhywiol a niwed ar-lein fod yn hygyrch i rieni ag anabledd dysgu
· Mae plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu mewn mwy o berygl pan gânt eu 'dadrywioli' a ddim yn cael eu haddysgu am berthnasoedd iach
· Bydd gan blant a phobl ifanc ag anabledd fwy o ofalwyr yn eu bywyd, yn enwedig y rhai sydd angen gofal personol, ac mae hyn yn creu risg ychwanegol.
Trafodaeth o'r llawr
Arweiniodd Elinor Puzey o NSPCC Cymru drafodaeth gyda’r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Roedd y pwyntiau ac argymhellion allweddol a nodwyd yn cynnwys:
Hyfforddiant
· Mae'n hanfodol bod gweithwyr yn y gwasanaethau trais rhywiol arbenigol yn cael hyfforddiant ar anghenion plant sydd ar y cyrion, a rhagfarn ddiarwybod
· Dylid cefnogi gwasanaethau arbenigol i gael hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol
· Dylid darparu hyfforddiant i sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gweithio gyda phlant ar y cyrion, ar sut i adnabod arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol, sut i siarad amdano a beth i’w wneud â datgeliad
· Dylai fod gan bob hyfforddiant lens groestoriadol drosto. Dylid osgoi grwpio plant ond yn hytrach eu hadnabod fel unigolion a all brofi gormesau croestoriadol
· Nid yw hyfforddiant ar-lein i weithwyr proffesiynol yn ddigon, a dylid darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gam-drin plant yn rhywiol.
· Dylai hyfforddiant gael ei lywio gan brofiad bywyd pobl
Gwaith aml-asiantaeth
· Dylid cefnogi sefydliadau sector arbenigol a sefydliadau llawr gwlad i weithio'n gyfannol gyda phlant
· Mae defnyddio’r dehonglydd cywir yn hanfodol – dylid sicrhau fod tafodiaith yn ogystal ag iaith yr un fath, ystyriwch a yw’r dehonglydd yn briodol i’r pwnc dan sylw, a yw’r goroeswr yn gyfforddus yn siarad drwy gyfrwng dehonglydd, neu a yw wedi meithrin perthynas â gweithiwr eisoes â allai fod yn y sefyllfa orau i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw?
Datblygu'r gweithlu
· Dylai gweithluoedd ystyried sut y gallant fod yn fwy amrywiol o ran diwylliant, i leihau rhwystrau i unigolion gael mynediad, a gwella gwelededd ar gyfer cymunedau ar y cyrion
· Gall safonau gwasanaeth gan y Survivors’ Trust helpu gwasanaethau arbenigol i ddangos tystiolaeth o'r wybodaeth sydd ganddynt am gefnogi plant ar y cyrion. Mae'r broses asesu hefyd yn cefnogi'r sefydliad i adnabod bylchau o ran gwybodaeth
Data
· Mae cyfres ddata genedlaethol ar gam-drin plant yn rhywiol yn hanfodol er mwyn cael darlun llawnach o nifer yr achosion, ond mae’n rhaid i’r modd y cesglir y data hwn gan blant gael ei lywio mewn modd sensitif yn ôl trawma (a brofwyd)
· Mae’r Uned Atal Trais yn creu hwb casglu data ar gyfer Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Cymru – dylid ystyried pa ffynonellau eraill y gellir eu defnyddio i gyfrannu at hyn (ysgolion, heddlu, sefydliadau llawr gwlad)
Diolchodd Jayne Bryant i bawb am ddod i’r cyfarfod, a chadarnhaodd y byddai papur briffio yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru gydag argymhellion, a daeth â’r cyfarfod i ben.